gyda gwen, o glust i glust,
fe oedd y cyntaf i basio`r pyst
mi roedd o’n hawdd, yn hollol naturiol
roedd rhai yn ei alw o`n ffol
ond doedd ysteried byth yn dal o nol
nid du a gwyn, ond hollol lliwgar
ond o, mae`n ddrwg gen i, wnest ti ddim ei weld o
ag o, mae`n chwith gen i, wnath o ddim rhagweld o
i deimlo`i hyn yn noeth,
ymhlith llif o syniadau doeth
roedd rhaid fo fod, yn unigolyn
diddanwch mewn pellter oer
yn ei fywyd, di-ffrwyth, ddi-glod
mi awn fel hyn, heb unrhyw ysteried
ond o, mae`n ddrwg gen i, wnest ti ddim ei weld o
ag o, mae`n chwith gen i, wnath o ddim rhagweld o
Back to:
CATATONIA lyrics